souledoutcymru.net
adref



edrych yn ôl
grwpiau
cysylltu

Grwp Facebook

Grwpiau Souled Out Cymru

Ein Gwerthoedd

Mae Duw wedi siarad â ni drwy ei Fab Iesu, a’i lyfr, y Beibl. Yr ydym yn ymddiried yn Iesu, yn dysgu’r Beibl, gan geisio gwneud ewyllys Duw.

Mae Duw yn galw ar bawb i gael eu hachub o’u pechodau drwy farwolaeth Iesu ar y groes. Rydym ni’n cyhoeddi hyn ac o’i glywed, mae llawer yn credu geiriau Duw, ac yn dod i berthynas iawn ag Ef.

Dymuniad Duw yw fod pobl ifanc yn mwynhau perthynas ag Ef. Felly mae ein haddoliad yn fywiog, yn berthnasol ac yn llawn o’r Ysbryd Glân. Fel pobl ifanc disgwyliwn glywed llais Duw, a chaiff Souled Out ei arwain gan yr hyn y mae Ef yn ei ddweud.

Cenhadaeth Duw sy’n cyfrif. Mae Souled Out yn cyfrif i ni, ond yr hyn sy’n cyfrif go iawn yw cael bod yn gyd-weithwyr yn ei genhadaeth Ef.

>> yn ôl i 'Amdanom Ni'



© 2007-2012 Souled Out Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Dylunio gan Owain Roberts